Grace Bumbry

| dateformat = dmy}} Cantores opera Affricanaidd-Americanaidd oedd Grace Melzia Bumbry (4 Ionawr 19377 Mai 2023). Roedd hi'n un o brif mezzo-soprano ei chenhedlaeth.

Cafodd ei geni, fel Grace Ann Melzia Bumbry, yn St. Louis, Missouri, UDA, trydydd plentyn Benjamin Bumbry, gweithiwr rheilffordd, a'i wraig Melzia, athrawes. Astudiodd Bumbry piano clasurol gan ddechrau yn 7 oed, ond roedd hi'n eisiau dod yn gantores ar ôl gweld Marian Anderson mewn cyngerdd.

Cafodd Bumbry ei addysg yn yr Ysgol Uwchradd fawreddog Charles Sumner, yr ysgol uwchradd ddu gyntaf i'r gorllewin o'r Mississippi. Roedd hi'n disgybl yr athro llais Kenneth BillupsEnillodd gystadleuaeth dalent a noddwyd gan orsaf radio St Louis KMOX. Yn embaras, trefnodd hyrwyddwyr y gystadleuaeth iddi ymddangos ar raglen genedlaethol ''Talent Scouts'', gan ganu aria Verdi o ''Don Carlos'' . Arweiniodd llwyddiant y perfformiad hwnnw at gyfle i astudio yng Ngholeg Celfyddydau Cain Prifysgol Boston, ac wedyn ym Mhrifysgol Northwestern, lle cyfarfu â Lotte Lehmann, soprano ddramatig Almaeneg. Gwahoddodd Lehmann hi i astudio yn ei Music Academy of the West yn Santa Barbara, Califfornia.

Ym 1963, priododd a'r tenor o Wlad Pwyl, Erwin Jaeckel. Fe wnaethon nhw ysgaru yn 1972. Bu farw Jack Lunzer, ei phartner, yn 2016.

Ar 20 Hydref 2022, cafodd Bumbry strôc. Bu farw o gymhlethdodau cysylltiedig mewn ysbyty yn Fienna, yn 86 oed Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Bumbry, Grace', amser ymholiad: 0.17e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    Cyhoeddwyd 1966
    Awduron Eraill: “...Bumbry, Grace...”
    Rhif Galw: TC 31 Bumb
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
    gan Falla, Manuel de (1876-1946)
    Cyhoeddwyd 1965
    Awduron Eraill: “...Bumbry, Grace...”
    Rhif Galw: TD 42 Fall
    Llyfr