Tenor o Gatalwnia ydy Josep Maria Carreras i Coll (ganed 5 Rhagfyr1946), a adwaenir gan amlaf fel José Carreras. Mae'n adnabyddus am ei berfformiadau yn yr operâuVerdi a Puccini. Cafodd ei eni ym Marcelona, a pherfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf pan oedd yn 11 oed fel Trujamán yn ''El retablo de Maese Pedro'' gan Manuel de Falla. Parhaodd ei yrfa gerddorol gydag ef yn perfformio dros 60 rôl ar lwyfannau prif dai opera'r byd ac yn y stiwdio recordio. Cynyddodd ei enwogrwydd pan ganodd fel un o'r Tri Thenor gyda Plácido Domingo a Luciano Pavarotti mewn cyfres o gyngherddau a ddechreuodd ym 1990 ac a barhaodd tan 2003. Mae Carreras hefyd yn adnabyddus am ei waith dyngarol fel llywydd Sefydliad Liwcemia Rhyngwladol José Carreras (''La Fundació Internacional Josep Carreras per a la Lluita contra la Leucèmia''), a sefydlodd pan oedd yn gwella o'r clefyd ym 1988.
Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Carreras, José', amser ymholiad: 0.09e
Mireinio'r Canlyniadau