Hermann von Helmholtz
Gwyddonydd ac athronydd o'r Almaen oedd Hermann Ludwig Ferdinand von Helmholtz (31 Awst 1821 – 8 Medi 1894). Arbenigodd ym meysydd ffiseg a ffisioleg, ond cyfranodd hefyd at ddatblygiadau yn acwsteg, opteg, mathemateg, meteoroleg, ac athroniaeth.Fel anatomegydd, astudiodd ffisioleg y nerfau a llwyddodd i fesur buanedd ysgogiad nerfol gan ddefnyddio galfanomedr. Ar sail ei arbrofion ar fetabolaeth y cyhyrau, darganfyddodd egwyddor cadwraeth egni a'i gosod yn ddeddf fathemategol ym 1847. Arloesoedd gysyniad egni rhydd, a chyfranodd at ddatblygiadau yn thermodynameg ac electrodynameg. Astudiodd hefyd mudiant fortecs mewn hylifau. Ymhelaethodd ar ddamcaniaeth Thomas Young ar olwg a lliw, eglurodd mecanwaith ymgymhwysiad y lens, ym 1851 dyfeisiodd yr offthalmosgop, a chyhoeddodd draethawd estynedig ar opteg ffisiolegol ym 1867. Roedd hefyd yn arbenigwr ar acwsteg, yn enwedig ansawdd tôn.
Addysgodd ffiseg ym Mhrifysgol Berlin, a gweithiodd yn swydd cyfarwyddwr yr Athrofa Ffisegol-Dechnegol yn Charlottenburg. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2